top of page

Braf yw credu ein bod i gyd yn perthyn.  Yr holl anifeiliaid sydd yn rhan o’n bywydau, yn perthyn i’w gilydd.
Perthyn agos efallai fel y gath a’r teigr, y ci a’r blaidd, y pysgod bach chwim a’r siarc a’r dolffin.  

Neu, perthyn ymhellach fel y dyn a mwnci sydd yn amlwg o esblygiad. Y gred yw taw dyn sydd wedi datblygu i fod yn un mwyaf galluog.  Ond eto, rhaid ystyried mor alluog mae creaduriaid bach sy’n perthyn i r‘un byd a dyn.  Yr aderyn bach, a fedr hedfan filoedd o filltiroedd ar draws y byd a dychwelyd i r’un nyth flwyddyn ar ôl blwyddyn.  

Mae pob creadur gan gynnwys dyn wrth gwrs yn perthyn i r’un blaned ac ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn gofalu a pharchu ein byd.  
 

Fel plant ysgol i ni’n falch ac yn hapus o fedru dweud ein bod yn perthyn i ysgol arbennig, yn perthyn i deulu arbennig ac i fod yn rhan o deulu mawr sy’n perthyn ac yn bodoli ar y ddaear. 

Y ddaear, y lle sy’n bwysig ein bod yn cadw’n ddiogel i’n perthnasau yn y dyfodol.

bottom of page